A Allai’r Blaid Lafur Arwain Cymru at Annibyniaeth?

'Os gyflwynai unrhyw un refferendwm ar annibyniaeth, bron yn sicr y Blaid Lafur Cymru ei fydd.’

by Aaron Bastani

6 October 2021

Dylunio: Pietro Garrone a Max Ryan (Novara Media). Ffotograff gwreiddiol: Joseph Reeder

Wrth i’r llen ddisgyn ar yr ugeinfed ganrif, roedd y Deyrnas Unedig yn un o’r gwledydd mwyaf sefydlog ar y Ddaear. Yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ers 1973, edrychai fel petai ei bod wedi codi o’i chyfnod gwladychol ar yr un pryd y crëwyd y DU fel cymdeithas a oedd yn medru adnewyddu ei hun tro ar ôl tro. Roedd Iwerddon dal wedi’i rhannu – hyd yn oed os daeth datblygiad yma gyda Chytundeb Dydd Gwener y Groglith – ond edrychai fel petai bod yr ynys Prydain, yn enwedig, am aros yr un fath ag yr oedd wedi bod ers 1707: fel undeb anrhanadwy.

Dim ond ychydig o bobl byddai’n dod i’r casgliad hwnnw wrth edrych ar y tirlun gwleidyddol heddiw. Pleidleisiodd Prydain i adael yr UE yn 2016, yr aelod-wladwriaeth gyntaf i’w wneud yn gynharach eleni. Hefyd, mae dwy o’r bedair llywodraeth ddiwethaf San Steffan wedi bod yn glymblaid ansicr ac, efallai pwysicaf oll, mae’r deinameg newidiol y tu hwnt i Loegr yn golygu bod yr undeb ei hun yn wynebu heriau i’w bodolaeth.

Ystradgynlais
Ystradgynlais, Cymru (Polly Thomas/Novara Media)

Mae hwn fwyaf amlwg yn yr Alban, lle mae diwylliant gwleidyddol fwyfwy anghydffurfiol wedi ymddangos. Er goruchafiaeth ddigymar plaid Genedlaethol yr Alban (SNP), mae’n bwysig cofio pa mor ddiweddar yw ei chynnydd. Degawd yn ôl, dim ond chwe sedd oedd ganddi yn Nhŷ’r Cyffredin; ar ôl yr etholiad cyffredinol 2015, roedd ganddi 56 sedd allan o 59. Heddiw, mae arolygu barn dros annibyniaeth yn rhoi ‘ie’ naill ai ar y blaen neu y tu ôl gan y lwfans gwallau. Gwnaeth un arolwg ym mis Medi roi’r SNP ar 51%.

O’r tu allan, ni all y sefyllfa yng Nghymru fod yn fwy gwahanol. Tra fod poblogrwydd yr SNP wedi codi’n eithafol dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r blaid dros genedlaetholdeb Cymreig, sef Plaid Cymru, wedi baglu. Ac er i Lafur yr Alban ddioddef dirywiad di-ddiwedd o ddechrau’r 2000au tan ei ddymchweliad chwe blynedd yn ôl, enillodd Llafur Cymru hanner yr holl seddi yn yr etholiad Seneddol ym Mai 2021. Arweinydd diamheuol bywyd cyhoeddus yng Nghymru yw Mark Drakeford o’r Blaid Lafur, gyda’r prif weinidog yn fwy poblogaidd yng Nghymru na Nicola Sturgeon yn yr Alban. Os rhag-amod angenrheidiol ar gyfer annibyniaeth yw dymchwel y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur, fel digwyddodd yn yr Alban, yna edrychai ymadawiad Cymru o’r undeb yn anghysbell.

Llafur dros annibyniaeth?

Ac eto, er gwaethaf llwyddiant Llafur Cymru, gyda’i hymrwymiad i’r undeb, nid yw ymgyrchwyr dros annibyniaeth bellach wedi’u cyfyngu i’r ymylon gwleidyddol. Gwnaeth arolwg diweddar ar gyfer ITV ganfod y byddai 39% o’r ymatebwyr yn pleidleisio dros Gymru annibynnol, ac eithrio atebion ‘ddim yn gwybod’. Er mai un pwynt data yw hwn, mae’r duedd – fel y gwelir isod – yn amlwg.

Graph showing Welsh independence polling between 2014 and 2021. Opposition declines from 83% to 68%, whilst support rises from 17% to 32%.
(Ell Folan/Novara Media)

Mae’r newid hwn ym marn y cyhoedd yn fwy diddorol wrth ystyried sut oedd yr awydd am ddatganoli, pan gafodd ei gynnig am y tro cyntaf ym 1999, yn llai na syfrdanol. Y flwyddyn honno, mewn refferendwm ar senedd Gymraeg bosib, enillodd yr ymgyrch ‘ie’ gan lai na 7,000 o ganran bleidleisio o 50%. Ymhellach yn ôl, enillodd y refferendwm yn 1979 dim ond 20% o gefnogaeth. Heddiw, mewn cyferbyniad, nid yn unig yw’r mwyafrif llethol o bobl yng Nghymru yn cefnogi datganoli, ond maent yn credu y dylai fynd ymhellach, gydag un arolwg barn yn dangos bod bron 60% o bobl yn cefnogi ‘devo max’, sef opsiwn a byddai’r nesa peth at annibyniaeth. Mae’r ffigur yn codi i 82% ymhlith pobl 18 i 24 oed.

Ond os nad yw Cymru’n fodlon â’r sefyllfa gyfansoddiadol fel y mae, ac yn dymuno cael mwy o ymreolaeth, mae cwestiwn pwysig yn codi. Beth yw’r terminws ar gyfer gwleidyddiaeth o’r fath yma? A ble mae hynny’n gadael Llafur Cymru – a oedd yn dominyddu am ganrif – o wybod bod y cwestiwn cenedlaethol bron wedi achosi dymchwel y blaid yn yr Alban?

Dylan Lewis-Rowlands yng Nghwmbach, Aberdâr (Polly Thomas/Novara Media)
Cwmbach, Aberdare
Cwmbach, Aberdâr (Polly Thomas/Novara Media)

Mae Dylan Lewis-Rowlands, 20, yn fyfyriwr gwleidyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth. Ym mis Mai, rhedodd fel ymgeisydd Llafur yng Ngheredigion, cadarnle Plaid Cymru. Ar wahân i’w ieuenctid, yr hyn sy’n gwneud Dylan yn anarferol fel ymgeisydd plaid yw ei bod yn cefnogi annibyniaeth. “Dyw’r DU a greodd y GIG ym 1945 ddim yn bodoli rhagor,” meddai wrthyf – ond yng Nghymru, meddai, mae sosialaeth dal yn bosib.

“Mae Cymru wrthi’n creu hunaniaeth unigryw ac mae ganddi gorff gwleidyddol gwahanol,” parha ef i ddweud dros baned o de mewn caffi ym Mhontypridd. “Rydyn ni efallai 30 mlynedd y tu ôl i’r Alban, ond mae gwleidyddiaeth Cymru’n dod yn wahanol. A dim oherwydd Plaid Cymru mae hynny – mae fe oherwydd Llafur Cymru.” Yn wahanol i’r Alban, ble wnaeth cenedlaetholdeb anafu Llafur, mae’n dal i fod yn fantais yng Nghymru, casglai Dylan. O ganlyniad, mae’n credu bod Llafur yn gallu arwain y ddadl dros annibyniaeth, yn hytrach na chael ei gadael ar ôl ganddo.

Er nad yw hwn mewn unrhyw ffordd yn gynrychiadol o’r holl wlad, mae Dylan yn bell o fod yn achos unigryw; roedd dau ymgeisydd arall ar gyfer etholiadau’r Senedd ym mis Mai gyda safbwyntiau tebyg. Yn 2017, gwnaeth rhai aelodau’r blaid sefydlu Llafur dros Gymru Annibynnol, sef grŵp ymgyrchu ar gyfer y rhai sy’n “credu mai’r ffordd orau o sicrhau Cymru sosialaidd ddemocrataidd yw drwy annibyniaeth.” Yn hytrach na ymroi eu hunain i haniaethu, mae ei haelodau mewn llywodraeth leol eisoes wedi dechrau pasio cynigion sy’n cefnogi annibyniaeth, gan ddechrau gyda chyngor tref Blaenafon, a rhedwyd gan Lafur, yn niwedd 2019.

Abertawe (Polly Thomas/Novara Media)

Er disgwylir cefnogaeth i annibyniaeth yn y gogledd-orllewin, sef perfeddwlad cenedlaetholdeb Cymreig, mae’n arwyddocaol bod rhannau o’r de-ddwyrain yn ei ddilyn, gyda chyngor tref Caerffili yn pasio cynnig tebyg i Flaenafon. Er bod y cyngor yno yn cael ei reoli gan Blaid Cymru, roedd y bleidlais yn unfrydol gan awgrymu bod consensws ynghylch rhywbeth y fyddai disgwyl i fod yn bwnc dadleuol.

Yn hytrach na mynd yn erbyn traddodiad y blaid, mae Dylan yn dweud wrthyf sut mae cefnogi annibyniaeth i Gymru yn cyd-fynd â gwerthoedd sefydlol Llafur, megis Keir Hardie – ei harweinydd seneddol cyntaf erioed – a wnaeth ddadlau dros reol gartref dros ganrif yn ôl (er bod hyn yn berthnasol i Iwerddon a’r Alban yn hytrach na Chymru). Gosodwyd cynsail mwy diweddar gan Elystan Morgan, cyn AS Llafur dros Geredigion a chefnogwr amlwg dros annibyniaeth i Gymru.

Cwmbach, Aberdâr (Polly Thomas/Novara Media)
Cwmbach, Aberdâr (Polly Thomas/Novara Media)

Yn hytrach na lleiafrif ecsentrig o ymgyrchwyr, mae barnau newidiol ar annibyniaeth ymhlith aelodau Llafur yn adlewyrchu newidiadau ehangach yn sylfaen etholiadol y blaid. Gwnaeth un arolwg barn  ganfod fod dros hanner o bleidleiswyr Llafur yn 2019 (heb gyfri ‘ddim yn gwybod’) bellach o blaid gadael y DU – bron yn gyfartal â phleidleiswyr Plaid Cymru. Yn fwy na hynny, roedd 66% yn cytuno y dylai’r Senedd, yn hytrach na San Steffan, gael y pŵer i alw refferendwm – ffigwr sydd hyd yn oed yn uwch nag ymhlith pleidleiswyr Plaid Cymru (59%). Ym mhob grŵp oedran, roedd mwyafrif neu luosogrwydd o blaid cael pwerau o’r fath i orffwys yng Nghaerdydd – ac eithrio pobl dros 65 mlwydd oed.

Anodd fyddai rhagweld fod Llafur yn ymddangos i gymryd annibyniaeth mor o ddifrif â’r blaid dros genedlaetholdeb Cymreig. Felly, yw hi’n bosib bod y tensiwn rhwng peiriant plaid sy’n cefnogi’r undeb, a sylfaen etholiadol sy’n fwyfwy amwys amdano, yn golygu ei bod hi’n anochel y fydd Prif Weinidog Drakeford, neu’n fwy tebygol ei olynydd, yn dilyn yr un ffawd â Jim Murphy o’r Alban?

Baner Cymru yn chwythu yn y gwynt yn Abertawe (Polly Thomas/Novara Media)

Mark Hooper yw sylfaenydd Banc Cambria, sef banc cymunedol a fydd yn cael ei lansio’n ddiweddarach eleni. Mae’n credu ei bod hi’n annhebygol y bydd hanes yn ail-adrodd ei hun, gyda chymysgedd Llafur Cymru o “genedlaetholdeb meddal gyda ychydig bach o ddemocratiaeth gymdeithasol” – yn ogystal â phersonél gwell – yn siapio deinamig gwahanol iawn.

“Roedd perfformwyr gorau yr Alban wastad yn mynd i San Steffan – (Gordon) Brown, (Alistair) Darling,” meddai Hooper. “Yn Llafur Cymru, mae pethau’n wahanol.” Mae greddf Drakeford yn ymgorfforiaeth o hyn. Yn 2002 ysgrifennodd ef yr araith anhepgor “dŵr coch clir” i gyn-brif weinidog Rhodri Morgan, a oedd yn ceisio amffinio dull Cymreig o ymdrin â gwasanaethau cyhoeddus.

Er ei fod yn aelod o Blaid Cymru, mae Hooper yn hyderus y gall agwedd Llafur at annibyniaeth newid. “Dyw ni ddim angen aros am yr Alban na Brecsit – mae hwn amdanom ni’n cydnabod bod yna faterion mawr y gallwn ni datrys yng Nghymru,” meddai. “Yn y bôn, dyna yw neges Llafur a Phlaid.” Achos bod consensws cynyddol ar ddatganoli pellach, mae datblygiad sylweddol ar gyfer Plaid Cymru, fel y gwelsom gyda’r SNP, yn edrych yn annhebygol.

Tu hwnt i wleidyddiaeth plaid.

Felly, mae’r mudiad annibyniaeth yn cyffroi, tra bod ei gefnogwyr hanesyddol – Plaid Cymru – yn ddi-âm. Yn yr un modd, nid yw’n syndod bod ymgyrchoedd dros annibyniaeth yn dod i’r amlwg y tu hwnt i ffiniau’r pleidiau.

“Dw i ddim yn credu mai gwleidyddiaeth plaid yw’r ffordd i ddatrys hyn,” meddai Hooper. “Bydd gwleidyddion yn dilyn mudiad llawr gwlad sy’n gwthio am annibyniaeth.” Yn benodol neu beidio, mae hynny’n swnio fel strategaeth Gramscïaidd ar gyfer annibyniaeth, gyda’r pwyslais yn cael ei roi ar altro cymdeithas sifil a barn y cyhoedd cyn unrhyw beth arall. Mae hyn yn cyferbynnu â’r Alban unwaith eto, ble un plaid yn unig  –  yr SNP  – oedd y cerbyd am annibyniaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Er bod cymdeithasau fel y Commonweal a’r Ymgyrch Annibyniaeth Radical (RIC) bellach wedi dod yn chwaraewyr mawr, heb sôn am y Blaid Werdd yr Alban, ymunwyd â’r mudiad yn hytrach na’i ddechrau. Rhaid disgwyl i weld os bod y model Albanaidd gyda mantais neu beidio.

Ystradgynlais (Polly Thomas/Novara Media)

Yn arwain symudiad diamheuol o wrthryfelgar yng Nghymru mae Yes Cymru, a lansiwyd yn swyddogol yn 2016. Yn ôl pob golwg, y mae wedi cael ei fodelu ar Gonfensiwn Annibyniaeth yr Alban, a wnaeth ddod i’r amlwg yn 2005 fel llwyfan trawsbleidiol i gefnogi Alban annibynnol. Dros y 18 mis diwethaf, mae ei haelodaeth wedi cynyddu o lai na 2,000 i 19,000 o aelodau.

Mae Harriet Protheroe-Soltani yn drefnydd i Yes Cymru. Er ei bod yn siarad yn bersonol, mae ei stori’n dangos sut mae barnau ar annibyniaeth wedi newid dros y blynyddoedd diwethaf. Cafodd hi ei geni a’i magu ym Merthyr Tydfil, a ddaeth ar draws y syniad o annibyniaeth fel prosiect gwleidyddol yn hytrach na syniad haniaethol tra’n astudio yng Nghaeredin. Ei greddf oedd amddiffyn yr undeb i ddechrau. “Mae cywilydd arna i heddi, ond doeddwn i ddim eisiau’r Alban ein gadael ni mewn rhigol gyda Lloegr,” meddai. Yn y pen draw, fodd bynnag, cafodd Harriet ei pherswadio, nid yn unig ar gyfer yr Alban ond ar gyfer Cymru hefyd. “Roeddwn i’n bendant bod sosialaeth jyst yn amhosib drwy’r undeb.”

Abertawe (Polly Thomas/Novara Media)

Fel actifyddion ifainc eraill rydw i’n cwrdd, mae’n hawdd gweld sut y gallai Harriet fod wedi cael ei sugno i mewn i Lundain neu dde-ddwyrain Lloegr rhai degawdau yn ôl. “Pe baech chi’n dweud i mi y byddai’n meddwl am symud yn ôl i Ferthyr pan oeddwn i’n iau, ni fyddwn i wedi credu’r peth,” meddai wrthyf. Mae cyfuniad o newidiadau technolegol – yn enwedig o ran gweithio o bell – argyfwng costau byw fel canlyniad o renti gormodol, a mudiad gwleidyddol cyffrous wedi newid hynny i gyd.

Gwnaeth refferendwm arall, y tro hwn ar aelodaeth Prydain fel rhan o’r UE, golygu newidiad arall yng ngwleidyddiaeth Harriet. “Pan enillodd yr ochr gadael, sylweddolais y roeddwn i’n byw mewn swigen,” meddai. “Nid oedd y byd yr oeddwn i ynddo yn wir gynrychioli’r cymunedau dosbarth gweithiol ble dyfais i fyny.” Ar yr un pryd, er ei bod yn fwy a mwy amheugar o ddemocratiaeth gymdeithasol o fewn yr undeb, ymunodd â’r blaid Lafur i bleidleisio dros Jeremy Corbyn. “I fi, Corbyniaeth oedd tafliad olaf y dis,” meddai, “ond roeddwn i hefyd yn meddwl  ei fod yn cynnig math o wleidyddiaeth a oedd yn nes at y bobl, sef rhywbeth dw i dal yn dymuno. Mae’n rhaid i chi roi cynnig arni.” Gwnaeth y driniaeth a derbyniodd Corbyn a’i gydweithwyr seneddol gan y cyfryngau yn Llundain caledu barnu Harriet ar annibyniaeth. “Mae’r wladwriaeth Brydeinig yn wrthgyferbyniol i sosialaeth. Y frenhiniaeth, San Steffan, y cyfryngau, mae fe i gyd yn gwrthdaro’n llwyr gyda be mae sosialwyr yn eisiau – mae’n rhaid i ni sychu’r llechen yn lân.”

Felly pam mae Harriet yn parhau i fod yn aelod o’r blaid Lafur? Fel Dylan, mae’n credu ei bod yn gallu cefnogi annibyniaeth, neu o leiaf bod nifer fawr o’i chynrychiolyddion yn gallu ymuno â bloc ehangach i ennill refferendwm. “Os bydd unrhyw un yn cyflawni annibyniaeth neu refferendwm, y blaid Lafur Cymru fydd hi,” meddai wrthyf, er ei bod hi’n gwybod bod hynny’n golygu brwydr gyda’r blaid yn San Steffan. “Gallwch weld y tensiwn rhwng Llafur Cymru a San Steffan yn barod – edrychwch ar y ddadl ar UBI” (incwm sylfaenol cyffredinol). Yw hynny’n golygu y gallai Llafur Cymru diweddi mewn sefyllfa debyg i’w chymar yn yr Alban? “Dwi jest ddim yn gweld hynny’n digwydd am y tro.”

Llywelyn ap Gwilym ym Mhenylan, Caerdydd (Polly Thomas/Novara Media)
Penylan, Caerdydd (Polly Thomas/Novara Media)

Er ei fod yn aelod o Blaid Cymru, mae Llywelyn ap Gwilym, sy’n aelod o bwyllgor canolog Yes Cymru, yn cymryd naws debyg. Pan ofynnaf i’r cyn-ymgynghorydd rheoli beth sy’n ei wahaniaethu ef o’r pleidleiswyr Llafur sy’n cefnogi annibyniaeth, daw ei ymateb yn syth: “dim byd”. Felly pam nad yw’n aelod o Lafur? “Edrychwch ar Corbyn – roedd e’n dadlau dros setliad Almaeneg, mewn gwirionedd, dim byd rhy radicalaidd, ac edrychwch be wnaethon nhw iddo fe.” I Llywelyn, mae’r holl bosibiliadau ar y gorwel yn llawer mwy addawol os yw cwestiynau am ddosbarthiad a llywodraeth yn ffocysu ar Gaerdydd yn hytrach na Llundain. Er iddo gyfaddef ei fod yn cefnogi annibyniaeth am resymau diwylliannol i ddechrau – cyfarfu ei rieni drwy Blaid Cymru – nid yw eu dadleuon yn wahanol i rai Harriet a Dylan: dim ond drwy annibyniaeth y mae sosialaeth yn bosibl.

Mae Llywelyn, er nad yw’n aelod o Lafur, yn cytuno bod y blaid yng Nghymru yn wahanol i’r un yn San Steffan. “Allwch chi ddim cymharu Stephen Kinnock a Chris Bryant gydag aelodau Llafur y Senedd,” meddai. Ar ben hynny, mae’n cydnabod bod y blaid wedi cymryd “camau enfawr” ymlaen yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan nodi yr oedd yn  “annychmygadwy” gweld Llafur yn sefyll tri ymgeisydd o blaid annibyniaeth bum mlynedd yn ôl.

Mae Llywelyn yn cynnig un esboniad am y newidiad cyflym tuag at annibyniaeth, ar draws cymdeithas sifil Cymru yn ogystal ag o fewn Llafur: “Ers Covid, mae pobl yn gwybod ein bod gennym ni [yng Nghymru] lywodraeth nawr, ac mae yna bethau rydyn ni gyda rheolaeth drosodd.” Hefyd, mae gwelededd gwell Drakeford fel ffigwr gwleidyddol – fel gwrth-Boris Johnson i lawer o’r cyhoedd – wedi gwneud Cymry yn meddwl am eu hunain fel cenedl wleidyddol yn fwy a mwy normal.

Ond ar wahân i’r newidiadau diweddar o ganlyniad i’r pandemig, mae neilleb gan Llywelyn yn disgrifio tuedd ddyfnach. Er mai Cymraeg yw ail iaith Llywelyn – cafodd ei eni yn Lloegr – mae’n siarad Cymraeg gyda’i fab. Mae hyn yn arwyddluniol o sut atgyfododd yr iaith yn ystod yr ugeinfed ganrif – pryd ymddangosodd gwahaniaethu diwylliannol, ac yna datganoli, i herio’r statws cwo. Yn fwy a mwy, mae cefnogaeth dros annibyniaeth yn ym estyn tu hwnt i siaradwyr Cymraeg, ond y mae’n ddiamheuol bod amlygrwydd cynyddol yr iaith ym mywyd cyhoeddus wedi chwarae rhan.

Merlin Gable yn Nhreganna, Caerdydd (Polly Thomas/Novara Media)
Treganna, Caerdydd (Polly Thomas/Novara Media)

Er bod Llywelyn yn aelod hŷn o’r genhedlaeth milflwyddol, gan fod yn ei dridegau hwyr, mae Merlin Gable ddegawd yn iau ac wedi dychwelyd o Loegr yn ddiweddar. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ac, fel Harriet, ei brofiad y tu hwnt i Gymru a wnaeth gadarnhau ei uniaethiad gyda’i hunaniaeth Gymreig. “Gwnaeth fy amser yn Rhydychen gwneud i mi ymateb yn gryf iawn yn erbyn math penodol o’r diwylliant Saesneg,” meddai.

Mae Merlin yn cofio bod yn fyfyriwr blwyddyn gyntaf yn 2014, yn ystod refferendwm annibyniaeth yr Alban. “Yn y sgyrsiau hynny, doedd Saeson ddim yn gwybod beth oedd yn y fantol, a theimlais y roeddwn i yn. Doedden nhw jyst ddim yn deall y syniad o’r Alban fel gwlad.” Ar yr un pryd, teimlodd Merlin bod Cymru’n datblygu diwylliant gwleidyddol a oedd yn fwy a mwy unigryw, gydag allfudo i Loegr yn troi’n llai deniadol o ganlyniad. Llai o gyfleoedd dros y ffin, beth edrychai fel toriad y contract cymdeithasol o fewn yr undeb, a’r ymdeimlad cynyddol o botensial yw pam, i Merlin, y mae’r syniad o Gymru’n llywodraethu ei hun yn “uniongrededd bobl ifainc erbyn hyn”.

Mae datblygiadau diweddar yn nhirwedd y cyfryngau yng Nghymru yn cadarnhau hynny. Er bod cyfryngau brodorol cryf wedi bod yn absennol ers tro, gyda’r rhan fwyaf o bapurau newydd y DU ddim hyd yn oed yn cynhyrchu argraffiadau i Gymru (fel sy’n gyffredin yn yr Alban), mae hynny bellach yn newid. Yn 2017, lansiwyd Nation.Cymru, sy’n disgrifio ei hun fel “gwasanaeth newyddion cenedlaethol i Gymru yn yr iaith Saesneg”. Yn 2019 lansiwyd Llais Cymru, tra cyrhaeddodd The National – sydd hefyd gydag argraffiad wythnosol – yn gynharach eleni. Does dim amheuaeth y bydd rhai o’r mentrau hyn yn methu, ond mae’r tuedd yn dangos bod newidiadau dwfn yng nghymdeithas sifil Cymru yn dechrau cael eu hadlewyrchu yn ei chyfryngau.

Ffrynt arall yn y frwydr dros annibyniaeth yw’r cyfryngau cymdeithasol. Gan fod pleidleiswyr iau yn fwy agored i annibyniaeth, nid yw’n syndod mai TikTok yw’r platfform dewisiadol, ble mae 2.3 miliwn bost o dan yr hashnod #YesCymru ar hyn o bryd.

https://www.tiktok.com/@indymarcus/video/6900347213105401089?sender_device=pc&sender_web_id=6899491607239230981&is_from_webapp=v1&is_copy_url=0

Yn groes i’r ystrydeb bod sgyrsiau ar-lein bron byth yn effeithio’r byd go iawn, mae’r rhwydweithiau fwyfwy trwchus hyn wedi cael eu pario gyda actifiaeth all-lein, o ddeisebau i sticeri cynyddol o hollbresennol ‘Yes Cymru’, i orymdeithiau. Nod All Under One Banner Cymru, a sefydlwyd yn 2019, yw cydlynu gorymdeithiau ledled y wlad. Cyn Covid-19, cynhaliwyd tri digwyddiad yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr Tudful, gyda’r rali yng Nghaernarfon yn denu 10,000 o bobl. Mae cynlluniau eisoes ar gyfer mwy yn ddiweddarach eleni, ac mae’r trefnwyr yn credu bod ralïau llawer mwy, fel yn yr Alban, yn anochel.

Beth nesaf?

Mae’r consensws ymhlith y rhai y siaradais gydag yn dangos nid yn unig bod refferendwm yn ystod y degawd nesaf yn bosibl, ond yn ddewisach, gyda 2028 yn cael ei gynnig tro ar ôl tro fel dyddiad credadwy. Ar yr un pryd, ffodd bynnag, cydnabuwyd yn eang fod taith hir o’u flaenau, ac mae adeiladu gofod gwleidyddol ar wahân i San Steffan yn parhau i fod y flaenoriaeth. Am yn awr, mae hynny’n golygu bod y rhai sy’n cefnogi annibyniaeth – waeth beth teyrngarwch plaid – yn gallu parhau fel cyd-deithwyr, ochr yn ochr gyda’r mwyafrif sydd ond yn ffafrio mwy o ddatganoli.

Mae’r ffordd bydd y mudiad yn datblygu dros y degawd nesaf yn dibynnu ar nifer o ddigwyddiadau, ond gallwn weld yn fwy a mwy clir yr amodau a fydd yn arwain at Gymru efallai yn gadael yr undeb. Roedd pawb yn glir y byddai’r debygoliaeth o Gymru’n ymwahanu yn plymio os gollai’r Alban refferendwm annibyniaeth arall. Yn yr un modd, pe bai’r Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth, byddai hynny’n newid popeth i Gymru  –  yn enwedig i’r rhai sy’n amwys ar y cwestiwn ar hyn o bryd. “Does neb eisiau iddo fod dim ond ni a Lloegr,” meddai un aelod Llafur wrthyf.

Ceri yn Abertawe (Polly Thomas/Novara Media)

Yn ail yw’r cwestiwn o bwy fydd yn arwain Llafur fel olynydd i Mark Drakeford, gyda’i gyffyrddiad ysgafn,  gwerinol ac ei gymysgedd o “genedlaetholdeb meddal a democratiaeth gymdeithasol” yn allweddol i lwyddiant Llafur Cymru ym mis Mai. Byddai poblogrwydd Llafur yng Nghymru yn debygol o ddod o dan fygythiad, ffodd bynnag, pe bai Keir Starmer yn ceisio gosod ymgeisydd a ffafrir ganddo ef, neu’n ymyrryd, fel y digwyddodd yn yr Alban gyda Richard Leonard. Pe bai plaid San Steffan yn ceisio gosod olynydd i Drakeford, “bydd yna derfysgoedd,” meddai Ceri, aelod Llafur o Abertawe.

Byddai’n sicr yn dangos hwbris ar ran Starmer pe bai’n meddwl ei fod yn gwybod yn well. I dynnu sylw at ffawd wahanol y blaid ar draws y ddwy wlad, mae Ceri yn dweud i mi sut yn yr un wythnos y collodd Lafur isetholiad cyngor yng Nghaerlyr enillasant 80% o’r bleidlais yng Nghwm Rhondda. Yn wir, fel cam tuag at annibyniaeth, ac i warchod rhag ymyrraeth wleidyddol o Lundain, mae rhai aelodau’n dechrau mynnu plaid annibynnol. Fel y mae Martyn, aelod o Ystradgynlais yn dweud, “pam dyle fi ymddiried yn y blaid ar ffederaliaeth pan nad yw’r blaid ei hun yn ffederal?” I Dylan, dylai’r amcan fod yn gynhadledd sofran Gymreig sy’n creu ei pholisi ei hun. “Cyn annibyniaeth, gallwn ni dal i anelu at sefyllfa ddi-garbon neu wrth-niwclear.”

Martyn yn Ystradgynlais (Polly Thomas/Novara Media)

Y trydydd amodoldeb yw’r Ceidwadwyr, yn arbennig uwch-gynghrair Boris Johnson. Byddai llywodraeth Lafur sydd wedi’i diwygio ac yn cyflawni ffederaliaeth, waeth pa mor annhebygol gall ymddangos ar hyn o bryd, yn debygol o rwystro cynnydd pellach yr achos dros annibyniaeth. Ac eto, yn union oherwydd ei fod yn cael ei hystyried fel rhywbeth annhebygol y mae teimladau ymwahanydd yn cynyddu. Cyn belled â bod y Torïaid yn Rhif 10, yn enwedig gyda phrif weinidog mor anghysbell â Johnson, bydd cefnogaeth i annibyniaeth ond yn cynyddu. Mae’r un peth yn wir os yw Llafur yn methu cynnig agenda cydlynol ar ddiwygiant cyfansoddiadol.

Mae’r amodau delfrydol ar gyfer annibyniaeth, felly, yn edrych rhywbeth fel hyn: yn dilyn Covid-19, mae gwleidyddiaeth Gymreig wahaniaethol yn parhau i gynyddu; mae’r Alban yn cynnal refferendwm i adael y DU ac yn llwyddo; mae Llafur Cymru yn parhau i fod yn agored i’r posibilrwydd o newidiad cyfansoddiadol ac mae’r Torïaid yn aros mewn grym. Mae hyn, wrth gwrs, yn codi’r cwestiwn o sut y byddai llywodraeth yn San Steffan yn caniatáu i’r naill genedl Geltaidd adael, ond gallwn dybio mai dyma’r amodau sydd yn angen cael eu bodloni. Mae hyd yn oed Drakeford ei hun wedi cyfaddef bod rhaid “ailasesu” lle Cymru yn yr undeb pe bai’r Alban yn gadael. Yn fwy na hynny, mae’n haeru bod unrhyw benderfyniad ar refferenda yn y dyfodol yn gorffwys yn Glasgow a Chaeredin, nid Llundain.

Ystradgynlais (Polly Thomas/Novara Media)

“Dyw llawer o’r bobl a fydd yn gwthio am, ac yn ymgyrchu dros annibyniaeth yn y dyfodol ddim hyd yn oed yn gallu pleidleisio eto,” meddai Dylan wrthyf tua diwedd ein sgwrs. Heb os nac oni bai, y cenedlaethau iau bydd yn ysgogi’r mudiad annibyniaeth i amlygrwydd mwyach dros y degawd nesaf.

Roedd y Farcsaidd Gymraeg Raymond Williams yn ystyried annibyniaeth fel proses yn hytrach na digwyddiad, gan ei ddisgrifio fel “cyfnod creadigol newydd a gweithredol: pobl sy’n ddigon siŵr o’u hunain i ollwng eu pryderon; gwybod bod y gorffennol yn y gorffennol, fel siapio hanes, ond gydag ymdeimlad hyderus newydd o’r presennol a’r dyfodol.” Unwaith o’r blaen yn barod, mae’r Cymry wedi cyflawni rhywbeth tebyg, gan adfywio eu mamiaith ar ôl canol yr ugeinfed ganrif. Mae’r profiad hwnnw o newid araf, cynyddol – ‘chwyldro hir’ fel y gallai Williams fod wedi’i alw – wedi paratoi llawer ar gyfer y dasg sydd o’u blaenau. “Wrth dyfu i fyny roedd y Gymraeg yn cael ei hystyried fel iaith marw,” meddai Pat, aelod Llafur sy’n credu y gallai Cymru fod yn annibynnol o fewn degawd. “Ers hynny mae wedi cynyddu a chynyddu.”

Os oes modd i iaith gael ei hail-eni, a Senedd cael ei chreu – felly pam ddim Cymru sofran?  O ystyried y newidiadau i wleidyddiaeth a chymdeithas Gymreig dros y ddau ddegawd diwethaf, dim ond ffŵl fyddai’n betio yn ei herbyn. Yn y cyfamser, dyma’r cwestiwn ar gyfer Llafur Cymru: a fydd gwleidyddiaeth democratiaeth gymdeithasol, heb sôn am sosialaeth, yn cael ei weithredu’n well tu fewn neu du fas i’r undeb? Wrth i’r blaid yn San Steffan symud i’r dde unwaith eto, a’r Torïaid yn llygadu degawd arall o bŵer, gallai’r ateb ar gyfer y rhai sy’n ffafrio’r undeb o sefyllfa bragmatig dod yn fwy a mwy anghysurus.

Mae Aaron Bastani yn olygydd cyfrannu at, a chyd-sylfaenydd, Novara Media.

Cyfieithwyd yr erthygl hon i’r Gymraeg gan Emyr Humphreys. Gallwch ddod o hyd i’r fersiwn Saesneg yma.

Breaking Britain is part of Novara Media’s Decade Project, an inquiry into the defining issues of the 2020s. The Decade Project is generously supported by the Rosa Luxemburg Foundation (London Office).

We’re up against huge power and influence. Our supporters keep us entirely free to access. We don’t have any ad partnerships or sponsored content.

Donate one hour’s wage per month—or whatever you can afford—today.

We’re up against huge power and influence. Our supporters keep us entirely free to access. We don’t have any ad partnerships or sponsored content.

Donate one hour’s wage per month—or whatever you can afford—today.