Leanne Wood: ‘Dyw Ond Eisiau Annibyniaeth Ddim Yn Ddigon. Rydyn Ni Angen Strategaeth’
'Dim ond siarad yw Llafur Cymru. Dw i ddim credu ei fod yn ddigonol.'
by Aaron Bastani
6 October 2021
Yn ystod y degawd diwethaf, gwelsom newidiadau gwleidyddol eithafol yn y DU. Yn 2015, collodd Llafur 40 sedd i’r SNP, a chafodd y blaid ei lleihau i un etholaeth yn unig yn yr Alban, sef cenedl sylfaenydd y blaid Keir Hardie. Gyda chynnydd parhaus Ukip, daeth y cwestiwn o adael yr UE yn fwyfwy amlwg, gyda’r Torïaid yn cynnig refferendwm ar ymadawiad a wnaethant golli yn y pen draw. Gydag analluogrwydd Llafur i dderbyn canlyniad y refferendwm, cafodd y blaid ei diberfeddu mewn rhannau o Loegr yn etholiad 2019. Heddiw, mae map o’r seddi yn San Steffan yn edrych yn wahanol iawn i sut edrychodd saith mlynedd yn ôl.
Ar yr un pryd, cawsom gipolygon o wleidyddiaeth chwith yn dod i’r amlwg hefyd. Yn 2015, cafodd Jeremy Corbyn ei ethol fel arweinydd y blaid Lafur, a dwy flynedd wedyn daeth canlyniad sioc gyda senedd grog. Yn 2010, cafodd Caroline Lucas ei hethol fel AS cyntaf y blaid Werdd. Ond, bron fel pe bai’n tynnu sylw at wleidyddiaeth ddarniog yr undeb, mae llwyth o’r straeon mwyaf blaengar a chyffrous i ymwneud â datblygiadau newydd ar y chwith yn digwydd y tu allan i Loegr. Mae poblogrwydd Mark Drakeford fel prif weinidog Cymru — heb sôn am ddeddfwriaeth a gynhyrchwyd yng Nghaerdydd megis Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, sy’n cyfeirio polisïau cyhoeddus yn benodol at bryderon tymor hwy. Yn ddiweddaraf yn Holyrood, cytundeb rhwng Gwyrddion yr Alban a’r SNP oedd y tro cyntaf i’r Gwyrddion ffurfio llywodraeth yn y DU.
Daeth enghraifft arall o’r duedd hon, unwaith eto o’r ymylon Celtaidd, yn 2012 pan gafodd Leanne Wood ei hethol fel arweinydd Plaid Cymru. Yn ogystal â bod y fenyw gyntaf i arwain ei phlaid, mae barnau gweriniaethol a sosialaidd Wood yn ei gwahaniaethu nid yn unig oddi wrth bobl fel David Cameron a George Osborne, ond gwleidyddiaeth San Steffan yn gyffredinol. Yn 2004, cafodd ei diarddel o’r siambr Senedd Cymru am gyfeirio at y Frenhines fel “Mrs Windsor”, ac mae hi’n aml yn dyfynnu’r awdur Marcsaidd Cymraeg Raymond Williams. Er bod disgrifiad Trydar Keir Starmer yn darllen fel proffil LinkedIn trychedig, gan restru ei swyddi yn y gorffennol a’r presennol, mae Wood yn cynnwys geiriau fel “ffeministaidd” a “gwrth-ffascaidd.”
Rydym yn cyfarfod yng Nghaffi’r Empire yn y Porth, yn ei hen etholaeth, sef Rhondda, llai na deufis ar ôl i Wood gael ei threchu gan yr ymgeisydd Llafur. Dair blynedd yn ôl, roedd hi’n arweinydd ei phlaid ac yn ddeddfwr etholedig yng Nghaerdydd, nawr nid yw hi’n un o’r rhain. Er ei bod yn amlwg bod Wood yn dal i brosesu’r ffaith hon, yn bersonol ac yn wleidyddol, mae hi’n gyfeillgar ar unwaith. Nid yw’n cymryd llawer o amser i ddeall pam ei bod yn ymgeisydd arloesol ar gyfer Plaid Cymru: enillodd sedd a wnaeth bleidleisio dros Llafur yn hanesyddol, a ddaeth â chenedlaetholdeb Cymreig y tu hwnt i gyfyngiadau siaradwyr brodorol.
Er gwaethaf popeth, o Brecsit a Covid-19 i fwyafrif llethol y Torïaidd, mae Wood yn pwysleisio bod ei dymuniad am newid sylfaenol, y peth a wnaeth ei hysgogi i amlygrwydd bron i ddegawd yn ôl, heb leihau. “Pan ges i fy ethol yn Rhondda yn 2016, oeddech yn gallu teimlo bod rhywbeth yn digwydd,” meddai, gan ychwanegu bod Ukip wedi ennill saith sedd yn yr un etholiad. “Yna, dim yn hir ar ôl hynny, mae Brecsit yn digwydd. Roedd pobl nad oeddent efallai mor wleidyddol o’r blaen yn cymryd rhan yn sydyn.” Mae Wood yn glir y gwnaeth yr un ddynameg – ynghyd â’i chydnabyddiaeth o ganlyniad i fod yn arweinydd plaid gyda chyfres o benderfyniadau amhoblogaidd gan y deiliad – ei helpu i drechu Llafur am y tro cyntaf mewn 13 mlynedd.
“Roedd yn foment fawr”, meddai weithredwr Plaid Cymru wrthyf ddiwrnod yn gynharach. “Daeth buddugoliaeth Leanne â ni allan o’n parth cysur a dangosodd i ni ein bod yn gallu ennill yn nhiriogaeth y Blaid Lafur”. Roedd rhai hyd yn oed yn gweld ei buddugoliaeth fel arwydd o Gymru o bosib yn efelychu’r Alban, gyda Llafur yn ymladd yn barhaol yn erbyn grymoedd cenedlaetholdeb gwrthryfelgar. Heddiw, mae rhagolygon o’r fath yn ymddangos i fod yn hynod o anghywir.
Er nad yw’r awydd am newid wedi diflannu, mae Wood yn glir bod Brecsit a Covid-19 wedi gadael pleidleiswyr yn llai gwrth-risg. “Y farn yma yw bod Llywodraeth Cymru wedi ymdrin â’r pandemig yn dda, a gwnaeth y bobl ddewis pâr saff o ddwylo [ym Mark Drakeford] er gwaethaf yr awydd hwnnw [am newid] yn dal i fod yno,” meddai. Mae Wood yn priodoli ei threchiad i Brecsit yn rhannol hefyd. “Roedd llawer o bleidleiswyr dros adael yn dal i fod yn ddig arnom oherwydd roeddwn ni am aros, ac eisiau dymchwel a’u penderfyniad.”
Ynghynt, dywedwyd wrthyf fod Wood wedi gwrthwynebu’n breifat y mudiad i geisio gwrthdroi’r bleidlais Brecsit, rhywbeth a wthiwyd amdano gan Adam Price, ei holynydd fel arweinydd Plaid Cymru. Os felly, yna nid yn unig Llafur Corbyn a ddioddefodd y wleidyddiaeth a ddaeth o ymgyrch Pleidlais y Bobl, ond Plaid hefyd. Er nad yw Wood byth yn dweud unrhyw beth i gadarnhau hyn, mae’n ymhlyg yn ei hasesiad dilynol bod y dde eithaf heb ddiflannu. Er gwaethaf canlyniadau ofnadwy i’r ymgeiswyr Ukip a chafodd eu hetholi bum mlynedd yn gynharach – collodd pob un ohonynt ym mis Mai – mae hi’n cynnal bod amodau yn ffafriol i’w gwleidyddiaeth. “Rwy’n pryderi fod ni heb ddysgu gwersi’r gorffennol pan ddaw i wrth-ffasgiaeth,” meddai wrthyf. “Bydd y dde a’r dde eithaf yn dal i godi cyhyd â bod rhyfeloedd diwylliant yn cael eu cynnal”. O ran Brecsit, mae’n deg i ddweud bod y llong honno wedi hwylio. Ond mae’n syndod ei weld yn cael ei eirio gan genedlaetholwr Cymreig yng Nghwm Rhondda, ar ôl clywed geiriau bron yn union yr un fath gan sosialwyr ar draws wal goch Lloegr. Os roedd clymblaid flaengar yn dod i’r amlwg cyn 2017, mae hi bellach wedi cael ei rhwygo ar wahân.
Ac eto, yn wahanol i rannau o Loegr, llwyddodd Llafur Cymru nid yn unig i oroesi Brecsit, ond cododd yn gryfach oherwydd ef, gan ennill 30 o’r seddi yn y Senedd ym mis Mai. Sut mae cyn-arweinydd Plaid Cymru yn esbonio i hynny? A beth mae hi’n ei wneud o’r symudiad o fewn Llafur Cymru, ymhlith pleidleiswyr ac aelodau, tuag at annibyniaeth? Dywedais i wrth Wood rywbeth a chafodd ei ddweud wrthyf dro ar ôl tro gan ymgyrchwyr annibyniaeth: er bod dymchwel Llafur yn rhag-amod ar gyfer datblygiad cenedlaetholgar yn yr Alban, yng Nghymru gallai’r blaid, i’r gwrthwyneb, wthio nid yn unig dros ddatganoli ond gwahanu hefyd.
Atebai heb betruso, “Dwi ddim yn credu y bydd Lafur yng Nghymru, ei strategaeth, na’i ddadleuon am DU ffederal, yn cael eu cyflwyno.” Mae’n cyfeirio at gymhlethdod gwleidyddol yr ASau Llafur yn San Steffan. “Mae popeth rydw i wedi gweld yn dangos y byddent yn blocio unrhyw fath o ddatblygiad cyfansoddiadol. Dyna beth sydd wedi digwydd yr holl ffordd hyd yn hyn.”
Er enghraifft, mae’n trafod cyfarfod yn 2014 gydag Owen Smith, ysgrifennydd gwladol cysgodol Llafur dros Gymru ar y pryd. “Roeddwn yn yr ystafell pan oedd yn ochri gyda’r Torïaid ar y cwestiwn o wrthwynebu datganoli plismona. Does gen i ddim ffydd ynddynt. Rwy’n adnabod yr ASau o Gymru ac rwy’n gwybod pa mor undebol yw rhai ohonynt. Gall Mark Drakeford ddweud be mae’n hoffi, ond byddai byth yn cael ei gyflawni.” Diweddai gyda gonestrwydd sy’n haws, heb os, o wybod nad yw hi mewn swydd gyhoeddus bellach: “mae gweld Llafur fel modd ar gyfer cyrraedd annibyniaeth yn rhithiol, i ddweud y gwir.”
Ac eto, mae’n amlwg bod gwahaniaeth rhwng sut y mae’r blaid Gymreig wedi ymdrin â chwestiynau ar ddatganoli a digwyddiadau yn yr Alban ar ôl 2014. Ni fyddai unrhyw un yn cyfuno Drakeford â Jim Murphy, cyn-arweinydd Llafur yr Alban, ar faterion cyfansoddiadol na chwestiynau ynglŷn â pholisïau datganoledig. “Ateb sinigaidd fyddai bod Llafur yng Nghymru wedi gweld beth ddigwyddodd i Lafur yn yr Alban ac maent yn eisiau atal hynny rhag digwydd eto,” meddai Wood. Mae hi, fodd bynnag, yn derbyn bod y blaid Gymreig yn wahanol i’r blaid yn Llundain. “Mae gwleidyddion Llafur yng Nghaerdydd yn wahanol i’r rhai yn San Steffan, mae hynny’n glir yn ôl y rhethreg […] ond er mwyn cael newid cyfansoddiadol, rhaid cael llywodraeth Lafur yn San Steffan o blaid ei chael, ac mae’n rhaid i’r ASau o Gymru ei chefnogi hefyd.”
Mae’r ddadl yn atgoffaol o gymdeithasegydd Marcsaidd Ralph Miliband, a fynnodd fod sosialwyr seneddol yn seneddwyr yn gyntaf ac yn sosialwyr yn ail. O ganlyniad, bydd eu hymrwymiadau i’r wladwriaeth Brydeinig yn disodli unrhyw deyrngarwch i fuddiannau’r dosbarth gweithiol neu’r blaid bob tro — yn wahanol i’r Torïaid sy’n rheoli er budd y dosbarth dyfarnu. I Miliband, roedd hwn yn esbonio pam yr oedd Llafur yn floc yn y ffordd i sosialwyr. Os yw Miliband yn gywir, byddai hwn yr un mor berthnasol i unrhyw aelod Llafur sydd yn mynnu cael Cymru sofran.
Yn anaml iawn rwyf wedi cael ateb cymhellol pan ddwedaf hyn wrth aelodau Llafur o blaid annibyniaeth. “Sut gall unrhyw symudiad digwydd heblaw bod arweinydd plaid y DU yn cael ei berswadio ganddo,” meddai Wood. “Dyw hi jyst ddim yn mynd i ddigwydd. Felly rydym yn angen edrych y tu allan i’r Blaid Lafur wrth drafod datganoli. Dyna pam rwy’n credu y gollom ni’r cyfle [yn yr etholiad ym mis Mai] i gefnogi ymgeiswyr y mudiad o blaid dros annibyniaeth.”
Anaml iawn y caiff pragmatiaeth fel hyn ei gyfuno â gwleidyddiaeth radical, gyda safle Wood yn atgoffaol o’r dywediad Gramscïaidd mai tasg bywyd modern yw byw heb ledrithiau, ond heb ddadrithiad. Efallai mai dyna y mae’n beirniadu’r cyfeiriad presennol yn syth, allan o bryder y bydd parhau ag ef yn creu dadrithiad. “Nid ydyn ni i gyd yn tynnu yn yr un cyfeiriad ar hyn o bryd. Dyw ond eisiau annibyniaeth ddim yn ddigon – mae’n rhaid bod cymuned wedi ei threfnu ei hun i gyrraedd yno. Yn yr Alban maen nhw wedi bod yn glir iawn: trwy lywodraeth SNP a fydd yn sbarduno refferendwm. Dydw i ddim yn glir beth yw safbwynt y mudiad fan yma.”
Ac eto, y mae’n ddiamheuol bod cefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru yn cynyddu, gydag un arolwg barn ym mis Mawrth yn ei rhoi ar 40% ymhlith y rhai a fynegodd farn. Felly pam y mae’n ymddangos bod Plaid Cymru yn mynd yn ôl? “Mae Llafur wedi gwneud gwaith da o wneud cynnig cyfansoddiadol sy’n swnio’n ddeniadol. Fy mhryder yw bod y cynnig heb gael ei harchwilio’n ddigon, a ni fydd yn ddigonol. Mae’n ddadl rydyn ni angen ei chael, nid yn unig o fewn y mudiad annibyniaeth, ond yn ehangach gyda’r cyhoedd yng Nghymru.”
Yn ogystal â hyn, mae Wood yn dadlau bod y refferendwm yn 2014 wedi cyflymu ymwybyddiaeth wleidyddol yn yr Alban, gan drawsnewid yr SNP yn beiriant gwleidyddol aruthrol. “Roedd profiad y refferendwm mor werthfawr i’w gwleidyddion. Yn 2015, pan ymddangosom gyda’n gilydd [ar y teledu] Roedd Sturgeon mor gaboledig. I mi, dyna oedd fy mhrofiad cyntaf erioed o wneud rhywbeth fel ‘na.” Hyd yn oed os bod refferendwm posibl yn cael ei golli yng Nghymru, fel a ddigwyddodd yn yr Alban, byddai hynny’n dal i gyflwyno gwobr o ryw fath i genedlaetholwyr Cymreig – y gobaith yw bod yr achos yn ennill cefnogaeth, tra bod Llafur Cymru yn cam-drin yr amgylchiadau fel y gwnaeth eu cydweithwyr yng Nglasgow a Chaeredin chwe blynedd yn ôl. Mae sefyllfa o’r fath hon yn gwbl gredadwy, a dyna pam bod llawer yn amau na fydd Llafur byth yn cynnig pleidlais heb fod yn gwbl sicr.
Ac yw Wood yn credu y gall Cymru byth fynd yr un ffordd a’r Alban? Neu Blaid Cymru’n efelychu llwyddiant yr SNP — yn enwedig o ystyried rhwystr yr iaith Gymraeg? Yw’r diwylliant o lafuriaeth yn unigryw o wydn mewn mannau fel Merthyr ac Aberafan? Gyda hwn, mae negyddiaeth Wood yn gadael ar unwaith ac mae hi’n dechrau gwenu’n sydyn. “Rwy’n cofio pethau tebyg yn cael eu dweud am wregys canolog yr Alban cyn 2015, edrychwch arno nawr. Y pwynt yw bod ni angen strategaeth ac rydyn ni angen ei ddilyn.” Mae hyn yn arbennig o berthnasol i hen ardaloedd diwydiannol sy’n pleidleisio dros Lafur o hyd, ond sy’n cael eu perswadio’n fwy a mwy gan yr achos dros annibyniaeth. “Mae’r etholiadau nesaf yn 2026. Hoffwn weld strategaeth i ennill yr ardaloedd hyn a dangos ei fod yn glir iawn sut i gyrraedd annibyniaeth os bod y bobl yn eisiau hi”.
Dywedodd F Scott Fitzgerald unwaith nad oedd ail actau ym mywyd Americanaidd. Yn achos Leanne Wood, ac arena ddinesig cenedl Gymreig sy’n dod yn fwyfwy hyderus, gallwn amau bod y gwrthwyneb yn wir. “Rwy’n ystyried sut y gallaf wneud y cyfraniad gorau i’r wleidyddiaeth rwyf wastad wedi ei chredu ynddi”, meddai wrth i’r cwsmeriaid olaf adael. Er gwaethaf ei threchiad ym mis Mai, mae gwleidyddiaeth Wood — diledryw, sosialaidd a gwyrdd — yn cyd-fynd â safbwyntiau’r cenedlaethau iau yn well na’r mwyafrif o wleidyddion eraill ym Mhrydain. Os yw ei greddf yn gywir, a bod yr awydd am newid go iawn dal i losgi’n llachar, gallwch fod yn sicr y bydd hi yn rhan o unrhyw symudiad. Ac er bod mwy a mwy o’i chydwladwyr yn ffafrio annibyniaeth, mae Wood yn mynnu map i gyrraedd yno.
Mae Aaron Bastani yn olygydd cyfrannu at, a chyd-sylfaenydd, Novara Media.
Cyfieithwyd yr erthygl hon i’r Gymraeg gan Emyr Humphreys. Gallwch ddod o hyd i’r fersiwn Saesneg yma.
Breaking Britain is part of Novara Media’s Decade Project, an inquiry into the defining issues of the 2020s. The Decade Project is generously supported by the Rosa Luxemburg Foundation (London Office).